Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
23 Hydref 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5359
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.58, atebodd Arweinydd y Tŷ gwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Arweinydd y Tŷ ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Dechreuodd yr eitem am 14.43
Dechreuodd yr eitem am 15.29
Dechreuodd yr eitem am 16.05
Dechreuodd yr eitem am 16.39
Dechreuodd yr eitem am 17.25
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6831 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynigion ar gyfer Diwygio Gwasanaethau Prawf yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi y bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM yng Nghymru yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddo eisoes yng Nghymru drwy ei gyfarwyddiaeth carchardai a phrofiannaeth sefydledig, i adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well ac adeiladu ar bartneriaethau lleol presennol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
7 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno â Chymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf bod preifateiddio gwasanaethau prawf wedi bod yn fethiant
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
10 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru er mwyn creu gwasanaeth prawf a gaiff ei gynnal yn gyhoeddus sy'n gwasanaethu buddiannau ein cymunedau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
14 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6831 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynigion ar gyfer Diwygio Gwasanaethau Prawf yng Nghymru.
Yn nodi y bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM yng Nghymru yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddo eisoes yng Nghymru drwy ei gyfarwyddiaeth carchardai a phrofiannaeth sefydledig, i adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well ac adeiladu ar bartneriaethau lleol presennol.
Yn cytuno â Chymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf bod preifateiddio gwasanaethau prawf wedi bod yn fethiant.
Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru er mwyn creu gwasanaeth prawf a gaiff ei gynnal yn gyhoeddus sy'n gwasanaethu buddiannau ein cymunedau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
14 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 18.17 ar gyfer y cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.18
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 24 Hydref 2018